Iris Prize short film lesbian gay Cardiff Caerdydd

Iris Prize

4 - 6 Hyd 2007

Cynhaliwyd gŵyl gyntaf Gwobr Iris yng Nghaerdydd rhwng 2-4 Hydref, wedi’i llunio a’i threfnu gan The Festivals Company Cyfyngedig.

Damien Rea on stageCafodd y digwyddiad ei esgor allan o greu Gwobr Iris, gwobr ryngwladol am ffilm fer hoyw a lesbian i ddathlu a hyrwyddo cynnwys delweddau symudol hoyw a lesbian. Byddai’r enillydd yn derbyn y wobr fwyaf am ffilm fer hoyw a lesbian yn y byd - gwerth £25,000 - i wneud eu ffilm fer nesaf ym Mhrydain gyda chefnogaeth Barcud Derwen a sector ôl-gynhyrchu Prydain.

Gan gysylltu gyda nifer o wyliau partner egniol a chefnogol yn Efrog Newydd, Llundain, Sydney, Hong Kong a San Francisco ymhlith eraill, derbyniodd y wobr geisiadau gan wneuthurwyr ffilm hoyw a lesbian ym mhob rhan o’r byd. "Fe wnaethom sylweddoli’n gynnar fod Iris yn brosiect gwirioneddol ryngwladol a fyddai’n herio ein gallu fel cwmni i gyflenwi digwyddiad mor unigryw a chymhleth," meddai Berwyn Rowlands, sefydlydd yr ŵyl.

Dewisodd pob gŵyl bartner un ffilm i fynd yn syth ar y rhestr fer o 30, gan adael panel beirniaid i ddethol tua ugain ffilm o’r cannoedd o geisiadau. Gwahoddwyd pob un o’r 30 ymgeisydd ar y rhestr fer Jason Bushman on stagei fynychu digwyddiad cyntaf Gwobr Iris a gynhaliwyd yn Chapter, Cineworld a lleoliadau eraill o amgylch Caerdydd ddechrau mis Hydref. Yn ogystal â dangos y ffilmiau ar y rhestr fer, roedd rhaglen yr ŵyl yn cynnwys ffilmiau hir (yn cynnwys nifer o premieres Ewropeaidd a Phrydeinig), dosbarthiadau meistr, sesiynau panel, partïon a derbyniadau.

Daeth dros hanner y gwneuthurwyr ffilm a enwebwyd i’r ŵyl, gan deithio o leoedd mor bell â’r Bahamas, Canada, America a’r Almaen yn ogystal ag o Gymru a Lloegr. Diolch i gynllun Cyfeillion Iris, cynigiwyd llety am ddim i’r holl wneuthurwyr ffilmiau a chawsant eu gwahodd i nifer fawr o giniawau rhwydweithio, partïon a derbyniadau, lle medrent gwrdd â gwneuthurwyr ffilm eraill megis aelodau’r panel beirniaid rhyngwladol Christopher Racster, Jaymes Thompson a Brent Gorski.

Cyhoeddwyd enillydd Gwobr Iris yn ystod seremoni wobrwyo ar y noswaith olaf lle dyfarnwyd gwobr yAbbe Robinson with Iris Juror Lisa Gornick Ffilm Brydeinig orau i Private Life gan Abbé Robinson (ar y de, gyda Lisa Gornick) . Fodd bynnag, aeth y brif wobr i Dee Rees o’r Unol Daleithiau am ei ffilm Pariah am lesbian yn ei harddegau sy’n ceisio ymdopi’n aflwyddiannus â sawl gwahanol agwedd ar ei phersonoliaeth i osgoi gwrthodiad gan ei ffrindiau a’i theulu. Wrth gyhoeddi enw’r enillydd yn y seremoni wobrwyo yn Cineworld yng Nghaerdydd, dywedodd Frances Hendron, Cadeirydd y Beirniaid: "Mae’r ffilm hon yn gwneud argraff gref. Mae’n stori bersonol a ddywedir mewn modd cynhwysfawr. Mae’r gwneuthurydd ffilm yn arddangos sgiliau gwneud ffilm ardderchog o gyfarwyddo’r actorion, y trac sain cerdd a rheolaeth naturiol ar ei phwnc".

Canmolodd y beirniaid hefyd bedair ffilm: For the Love of God gan y gwneuthurydd ffilmiau Prydeinig Joe Tucker; Peace Talk a gyfarwyddwyd gan Jennifer Malmvqist o Sweden, Hello, My Name is Harman gan Karine Silverwoman o Ganada a Le Weekend gan Timothy Smith.

Iris' Closing PartyAr ôl y seremoni wobrwyo, cafodd holl gynulleidfa’r ŵyl, gwneuthurwyr ffilm, beirniaid a chyfeillion Iris eu diddanu gyda cherddoriaeth fyw a gwin da ym mar Cineworld hyd yr oriau mân, gan ddod â digwyddiad llwyddiannus iawn i ben. Dywedodd Andrew Pierce (Golygydd Cynorthwyol The Daily Telegraph), un o’r panel beirniaid, y byddai Iris yn ddi-os yn dod yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr diwylliannol a lesbian a hoyw.

"Rydym wedi dangos drwy’r ŵyl gyntaf hon fod gan Iris lawer o gyfeillion ym mhob rhan o’r byd. Daeth gwneuthurwyr ffilm o’r Bahamas, Efrog Newydd, Los Angeles, Toronto, Berlin, Paris a Llundain i ymuno ag Iris yng Nghaerdydd. Gallaf gadarnhau fod cynlluniau’n mynd rhagddynt ar gyfer digwyddiad 2008 pan fyddwn unwaith eto’n croesawu’r gymuned gwneud ffilmiau fyd-eang i Gymru," meddai Berwyn Rowlands, wrth i Iris adael yr adeilad.

www.irisprize.org