Ffresh

Bellach yn ei 10fed blwyddyn, mae Ffresh – Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru – yn rhoi sylw i’r gwaith gorau gan fyfyrwyr o Gymru, Prydain a thramor, ynghyd â dosbarthiadau meistr, sesiynau panel a gweithdai gyda rhoi o ffigurau mwyaf adnabyddus ac uchaf eu parch y diwydiant. 

Mae’r gwesteion blaenorol wedi cynnwys y cyfarwyddwyr Mike Leigh, Asif Kapadia, Jonathan Caouette, Stephen Frears, Sergey Dvortsevoy, Matt Lispey, a Gaston Kaboré; yr ysgrifenwyr sgrin Andrew Davies a Tim Firth; y cynhyrchwyr Stephen Garrett a Sally Hibbin; yr artistiaid gweledol amlwg Lichtfaktor a Semiconductor; y  cwmnïau effeithiau rhyngwladol The Mill a Double Negative; Jim Clark, golygydd a enillodd Oscar; a’r animeiddwyr Merlin Crossingham, Johnny Kelly, Phil Mulloy, a Peter Dodd, ymysg llawer arall.
 
Mae rhaglen yr ŵyl hefyd yn cynnwys yr holl waith ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ffresh, sy’n cynnwys 14 categori rhagoriaeth, y gall myfyrwyr o bob rhan o Gymru a Phrydain gyflwyno eu gwaith ar eu cyfer. Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod Sioe Gwobrau Ffresh ar noswaith olaf yr ŵyl. Mae Ffresh hefyd yn cydweithio gyda 10 gŵyl bartner ym mhob rhan o’r byd sy’n flynyddol yn dethol gwaith i roi sylw iddo fel rhan o raglen yr ŵyl. 
 
Diben yr ŵyl yw dathlu’r gwaith gorau a gaiff ei greu gan dalent delweddau symudol newydd o bob rhan o’r byd, a rhoi dolen hollbwysig rhwng addysg uwch a’r sector cyfryngau. Cynhelir Ffresh 2013 yn Prifysgol Glyndŵr.