Eleanor Burnham at WCHY launch

10,000 o bleidleisiau!

5 Chwef 2010

Mae’r gystadleuaeth i ganfod Tŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn 2010 wedi derbyn ymateb rhagorol gan bobol Cymru gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau wedi eu derbyn ers sefydlu’r gystadleuaeth yn 2007. Mae’r Festivals Company sy’n trefnu’r gystadleuaeth wedi derbyn dros 10,000 o bleidleisiau!

"Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel gyda dros 10,000 o bleidleisiau (dros 4,000 yn fwy na dderbynwyd yn 2009) gan bobol Cymru fel rhan o’r gystadleuaeth i ddarganfod Ty Bwyta Indiaidd gorau’r wlad. Mae bron i 70% sef 200 o dai bwyta wedi derbyn pleidlais yn ystod y gystadleuaeth eleni," medda Berwyn Rowlands o’r Festivals Company.

"Da ni wedi gweld cynydd bob blwyddyn ers sefydlu’r gystadleuaeth, ond doedd neb wedi disgwyl gweld y fath gynydd eleni! Mi ddaru ni dderbyn dros 7,000 o gardiau post yma yn y swyddfa gyda’r bleidlais arlein yn ychwannegu 3,000 o bleidleisiau yn ychwannegol," ychwanegodd Berwyn!

The Festivals Company sy’n gyfrifol am y gystadleuaeth sydd yn derbyn nawdd gan Kingfisher Lager, Llywodraeth y Cynulliad, Really Welsh a chylchgrawn Buzz.

Llun uchod: Eleanor Burnham AC gyda Berwyn Rowlands (chwith) a James Nee o'r Festivals Company yn ystod seremoni lawnsio cystadleuaeth 2010 yn y Rhyl.

www.welshcurryhouse.co.uk