Lord Dafydd Elis Thomas and Berwyn Rowlands

Sesiynau'r Pierhead

4 Chwef 2010

Mae The Festivals Company wedi cyhoeddi manylion rhaglen Sesiynau’r Pierhead 2010. Mae’r ŵyl gyntaf hon sydd wedi ei gynhyrchu gan The Festivals Company ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gaddo dod â’r meddylwyr craffaf at ei gilydd i ganolbwyntio ar faterion sy’n effeithio arnoch chi, ar Gymru ac ar y byd.

Cynhelir yr ŵyl 3 diwrnod yn adeilad y Pierhead, gyferbyn ag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae’r adeilad nodedig yn un o dirnodau amlycaf Cymru ac fe’i gwelir bob nos yn gefndir i fwletinau newyddion ar ITV a’r BBC.

"Sesiynau’r Pierhead yw un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol yn hanes y Cwmni. Mae’r prosiect wedi rhoi sialens i ni ddefnyddio ein sgiliau rhaglenni, marchnata a threfnu gan ddod at eu gilydd ein arbenigedd a diddordeb mewn maesydd fel gwleidyddiaeth, bwyd, y cyfryngau ac adloniant. Da ni wedi derbyn ymateb cadarnhaol i’r rhaglen hyd yma. Mae’r ymateb wedi bod yn ffafriol iawn yn ogystal i’r safle we newydd da ni wedi ei greu gyda Sequence ar gyfer yr ŵyl," medda Berwyn Rowlands o’r Festivals Company.

Mae’r uchafbwyntiau yr ŵyl yn cynnwys sesiwn a fydd yn trafod Llyfr Coginio 2050, gan edrych ar yr hyn y byddwn yn ei fwyta yn 2050. Er bod ein cogyddion enwog heddiw eisoes yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio cynhwysion lleol a thymhorol, mae perygl nad yw’r cyhoedd yn cydnabod yr effaith y bydd cynhyrchu bwyd, dosbarthu bwyd a chynaliadwyedd yn ei chael ar yr hyn y byddwn yn ei fwyta yn y dyfodol. Mae patrwm newydd yn datblygu yn y byd bwyd a bydd i hynny oblygiadau pellgyrhaeddol iawn i bob gwlad yn y byd.

Traddodir prif araith yr ŵyl gan George Monbiot, a fydd yn rhoi ei farn am oblygiadau uwchgynhadledd Copenhagen i’r byd. At hynny, bydd yn trafod sut y gallwn ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy dros y degawd nesaf. Bydd ei ddarlith yn cael ei chyflwyno gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

Wrth i’r unfed Doctor ar ddeg baratoi i ymddangos ar ein sgriniau am y tro cyntaf yn y gwanwyn, bydd y sesiwn hon, ar y cyd â BBC Cymru Wales, yn edrych ar lwyddiant Doctor Who a’r effaith y mae’r rhaglen wedi’i chael ar Gaerdydd, Cymru a thu hwnt. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych tuag at dymor newydd Doctor Who o dan ofal Piers Wenger a’r Doctor newydd, Matt Smith.

www.pierheadsessions.org