Ty Cyri 2010
24 Tach 2009Dewch i brofi'r gystadleuaeth fwyaf blasus yng Nghymru.
Mae cogyddion ar hyd a lled Cymru yn paratoi i swyno'ch synhwyrau a thynnu dŵr o'ch dannedd wrth iddyn nhw gystadlu am deitl Tŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn 2010.
Mae'r ras wedi dechrau i weld pa un o blith 240 o fwytai cyri yng Nghymru fydd yn ennill y gystadleuaeth nodedig hon, sydd yn cael ei chynnal eleni am y trydydd tro.
"Yn y dair flynedd ers cychwyn y gystadleuaeth, mae enillwyr y teitl anrhydeddus hwn wedi dod o Ogledd a Gorllewin Cymru. Dw i'n credu bod 'na gryn ddisgwyl taw bwyty yn Ne Cymry fydd yn cipio'r wobr yn 2010. Y cyhoedd yng Nghymru, fodd bynnag, biau'r penderfyniad hwnnw yn y lle cyntaf," meddai Berwyn Rowlands o The Festivals Company, trefnwyr y gystadleuaeth.
Yn ystod lansiad y gystadleuaeth ddoe ym mwyty Kareems – The Restaurant yn y Rhyl, ychwanegodd: "Mae pobl sydd yn mynd i fwyta ym mwytai cyri Cymru wedi gweld newidiadau sylweddol yn y sector dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae noson allan yn y tŷ bwyta cyri lleol erbyn hyn yn brofiad soffistigedig a ffasiynol a'r bwyd yn gyson ardderchog."
"Roedd ennill y gystadleuaeth yn ddechra gwych i 2009. Dwi’n cofio teimlon’n balchder mawr yn ystod y seremoni lawr yng Nghaerdydd ar ran y teulu ac ar pawb ddaru pleidleisio i ni," meddai Sid Ghani, perchennog Kareems ac enillydd cystadleuaeth Tŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn yn 2009.
"Mae di bod yn wych ers i ni ennill y wobr ac yn ystod y flwyddyn da ni wedi agor ail dy bwyta ym Mae Colwyn. Dwi’n falch bod ni bellach yn cynnig bwyd gwir flas o’r Dwyrain pell yn y Rhyl a Bae Colwyn," ychwanegodd Sid.
Bydd y gystadleuaeth yn 2010 yn rhannu'r wlad yn dair rhanbarth: Gogledd, Canolbarth & Dwyrain, a De Cymru. Bydd enillwyr y tair rownd ranbarthol yn cystadlu â'i gilydd wedyn am y teitl cenedlaethol.
Rhwng nawr a diwedd mis Ionawr 2010, gallwch bleidleisio dros eich hoff fwyty cyri yn un o'r tair rhanbarth trwy ymweld â www.welshcurryhouse.co.uk. Cyhoeddir enwau'r 20 bwyty sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar 4 Chwefror 2010.
Yn ystod y bythefnos wedi hynny, bydd beirniaid rhanbarthol annibynnol yn ymweld â'r 20 bwyty hynny. Cyhoeddir enwau'r tri uchaf, un o bob rhanbarth yng Nghymru, mewn tri digwyddiad gwobrwyo rhanbarthol:
- Dydd Mercher 24 Chwe: Gogledd Cymru
- Dydd Iau 25 Chwe: Canolbarth Cymru
- Dydd Gwener 26 Chwe: De Cymru
Bydd y Beirniaid Cenedlaethol yn treulio diwrnod cyfan yn ymweld â phob un o'r tri bwyty fydd yn yn cystadlu yn y rownd derfynol. Yn ystod yr ymweliadau hyn, gofynnir i'r bwytai geisio perswadio'r beirniaid ag un o'u prydiau arbenigol – pryd sydd yn cael ei gynnig ar y fwydlen gyhoeddus.
Daw'r daith i ben pan wahoddir cynrychiolwyr y tri bwyty terfynol i Seremoni Wobrwyo Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 18 Fawrth 2010.

