Plaid Cymru I can make a difference Festivals Company

Gwneud gwahaniaeth!

10 Medi 2009

Festivals Company yn gobeithio gwneud gwahaniaeth i Blaid Cymru

Yn ddiweddar, cwblhaodd The Festivals Company ddarllediad etholiadol i Blaid Cymru, fydd yn cael ei ddefnyddio i lansio cynhadledd hydref y blaid ac yn cael ei darlledu ar BBC Cymru, S4C, ac ITV Cymru. Cafodd y darllediad ei ffilmio mewn manylder uwch gyda chamera Canon 5D Mark II.

"Roedd y briff gan y cleient yn sôn am fynd i'r afael â chamdybiaethau cyffredin ynglŷn â'r blaid a lansio slogan newydd ar gyfer ymgyrch yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf. Er mwyn cyflawni hyn, fe ddyfeisiom ni gysyniad gweledol uchelgeisiol fyddai'n taflunio llais Plaid ar adeiladau ar hyd a lled Caerdydd. Roeddem ni'n teimlo y byddai hyn yn ffordd fwy diddorol o gyfathrebu'r negeseuon yn hytrach na defnyddio'r ffurf draddodiadol lle mae rhywun yn siarad yn uniongyrchol â'r camera ac yn traddodi darlith, fel petai," meddai James o The Festivals Company.

"Yn dilyn straeon a sylw negyddol i wleidyddion eleni, mae'r canfyddiad ohonynt ac o enw da rhai pleidiau wedi cael eu niweidio'n arw, felly roeddem ni'n awyddus i greu rhywbeth mwy positif, yn debyg i'r darllediadau eraill a greasom i Blaid Cymru. Roeddem yn awyddus i ganolbwyntio ar y cyhoedd ac, ar gyfer diwedd y darllediad, y nod oedd creu rhyw fath o mantra cadarnhaol, lle mae'r holl gyfranwyr yn adrodd y linell "Galla' i wneud gwahaniaeth". Roedd hyn yn strategaeth ag iddi beryglon – os na fyddai'n llwyddo, y peryg oedd y byddai'n edrych fel efelychiad tila o un o hysbysebion arlywyddol Obama. Fodd bynnag, yn y diwedd rydym yn hyderus bod y ffilm yn bortread llwyddiannus o'r Gymru gyfoes ac yn cyflwyno slogan newydd Plaid mewn ffordd ddiddorol," meddai rheolwr gyfarwyddwr The Festivals Company, Berwyn Rowlands.

"O'r cychwyn cyntaf, roeddem ni'n gwybod bod y cysyniad yn un uchelgeisiol ac fe aethom ni ati i roi tîm at ei gilydd i'n helpu ni i gyflawni'r weledigaeth. Roedd ffilmio gyda'r Canon 5D Mark II yn benderfyniad dewr am mai camera delweddau llonydd ydyw yn y bôn a, hyd y gwyddom ni, nid oes deunydd a ffilmiwyd gyda'r camera hwn wedi cael ei ddarlledu ar y teledu hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae'r gwaith gorffenedig yn edrych yn ffantastig ac mae'r cleient yn falch iawn o'r ffilm felly fe dalodd y risg ar ei ganfed," ychwanegodd James.

Welsh Language Version

English Language Version