Rheithgor Iris 2009
8 Medi 2009Cyhoeddodd Andrew Pierce, Golygydd Cynorthwyol y Daily Telegraph ac un o Lywyddion Gwobr Iris, enwau'r rheiny fydd yn rhan o Reithgor Ryngwladol Gwobr Iris 2009. Mae Gwobr Iris, y wobr fwyaf yn y byd i ffilmiau byrion lesbiaidd a hoyw, yn rhan o Ŵyl Gwobr Iris, fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd o'r 7 - 10 Hydref 2009.
"Rydym wedi bod yn lwcus dros y blynyddoedd i sicrhau grŵp eclectig o unigolion uchel eu parch ar gyfer Rheithgor Gwobr Iris ac mae hynny'n wir yn 2009 hefyd. Mae'r 11 unigolyn sydd ar y rheithgor eleni yn ddynion a menywod sydd ar frig eu meysydd. Mae'r talentau'n cynnwys actorion, cyfarwyddwyr, cynllunwyr a rhai o fy nghyd-newyddiadurwyr o'r Guardian, Time Out a Gay Times, ac fe fydd angen pob gronyn o'u talentau unigol i ddethol un ffilm, o blith y 30 sydd wedi cyrraedd y rhestr, fer i ennill Gwobr Iris 2009," meddai Andrew Pierce (llun ar y chwith).
"Hoffwn ddiolch i bob aelod o'r rheithgor am eu cymorth a'u hamser a dymuno'n dda iddyn nhw yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd," ychwanegodd.
"Mae hi'n fraint cael cadeirio'r rheithgor eleni a dw i'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r broses ddethol. Ar ôl gweld calibr fy nghyd-aelodau dw i'n hyderus y gallwn ni gyflawni'n dyletswyddau'n llwyddiannus," meddai Cadeirydd y Rheithgor, Joseph Galliano (llun ar y dde), newyddiadurwr llawrydd a chyn-olygydd Gay Times.
"Dw i hefyd yn edrych ymlaen at dreulio amser yng Nghaerdydd ac at fy mhrofiad cyntaf o'r ŵyl. Dw i wedi clywed pethau da am Iris a'i chyfeillion," ychwanegodd.
Aelodau'r rheithgor yw:
- Joseph Galliano, newyddiadurwr llawrydd a chyn olygydd Gay Times
- Mark Brown, gohebydd celfyddydau, The Guardian
- Paul Burston, awdur a newyddiadurwr, Time Out
- Jason Bushman, cyfarwyddwr Hollywood Je t'aime
- Till Kleinert, Enillydd Gwobr Iris 2008
- Florencia Manovil, cyfarwyddwrFiona's Script
- Matthew Montgomery, actor Redwoods
- Daniel Robinson, actor The Big Gay Musical
- Amelia Shankland, cynllunydd ffilm a theledu
- Muirelle Wilson, cynllunydd ffilm a theledu
- Pascal-Alex Vincent, cyfarwyddwr Give Me Your Hand
Cewch ddarganfod mwy am aelodau'r rheithgor rhyngwladol yma: http://www.irisprize.org/jury09/index.html

