Darllediadau Etholiad Ewropeaidd

Darllediadau Etholiad Ewropeaidd

1 Ebr - 4 Mehef 2009

Creodd The Festivals Company ddau Darllediad Etholiadol a chyfres o promos ar-lein ar gyfer ymgyrch Plaid Cymru yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

Roedd y cwmni'n gyfrifol am ddatblygu, ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu'r ffilmiau yn dilyn trafodaethau â'r cleient, oedd yn awyddus i'r darllediadau adlewyrchu slogan yr ymgyrch: Yma I Chi.

"Gyda darllediadau'r etholiadau Ewropeaidd, fe benderfynon ni'n fuan iawn ein bod ni eisiau canolbwyntio ar 'bobl go iawn', hynny yw yr

etholwyr: eu bywydau, eu gobeithion, eu pryderon," meddai Rheolwr Gyfarwyddwr The Festivals Company, Berwyn Rowlands. "Cytunodd y cleient ac ymddiried ynom ni i greu'r cipolygon hyn ar fywydau pobl, fyddai'n adlewyrchu teimlad y genedl."

"Roedd hynny'n risg am nad yw'r darllediadau'n ddarllediadau etholiadol traddodiadol, h.y. gwleidydd yn siarad i gamera, ond roedden ni'n teimlo bod y steil yna'n hen ffasiwn braidd," ychwanegodd y Rheolwr Prosiect, James Nee. "Fel y tri darllediad a grëwyd gennym ar gyfer yr etholiadau cenedlaethol, roedden ni'n awyddus i greu rhywbeth anghonfensiynol fyddai'n creu ymateb mwy emosiynol ac, yn ôl yr adborth gan y gynulleidfa a'r cyhoedd, dw i'n credu'n bod ni wedi llwyddo'n rhyfeddol yn hynny o beth."

"Ar ôl i'r ffilmiau gael eu darlledu, roedd llawer o bobl yn meddwl ein bod ni wedi defnyddio actorion – sydd yn glod yn sicr - ond doedd hynny ddim yn wir. Mae'r bobl yn real, eu straeon yn real. Ein gwaith ni oedd eu cyflwyno nhw mewn modd onest, a dangos ymrwymiad Plaid Cymru i bobl Cymru," meddai Berwyn.

Cewch weld fersiwn saesneg o’r darllediadau drwy ymweld ag ardal saesneg y safle we.

Yma i chi Pennawd 1: Tre

Plaid: Yma i chi from PlaidTV on Vimeo.

Yma i chi Pennawd 2: Gwesty

Promo Etholiadau Ewrop 1

Promo Etholiadau Ewrop 2

Promo Etholiadau Ewrop 3