Penblwydd Hapus!
15 Mai 2009Mae The Festivals Company wedi ennill cytundeb i ddarparu cefnogaeth rheoli digwyddiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r cytundeb yn golygu y bydd y cwmni yn gweithio â'r Cynulliad ar y rhaglen o ddigwyddiadau i nodi dengmlwyddiant y sefydliad.
"R'yn ni wrth ein bodd yn cael gweithio â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y flwyddyn bwysig hon. Mae gan The Festivals Company record glodwiw o ddatblygu syniadau newydd a chyffrous ac r'yn ni'n edrych ymlaen at weithio â thîm talentog y Cynulliad i hybu diddordeb yn y sefydliad a dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y Cynulliad a phobl Cymru," meddai Berwyn Rowlands, Rheolwr-gyfarwyddwr The Festivals Company.
Y digwyddiad cyntaf a drefnwyd yn rhan o'r cytundeb newydd oedd parti pen-blwydd go arbennig i blant. Cafodd 7 o blant, a anwyd ar Fai 12, 1999, y cyfle i ddathlu'u pen-blwyddi mewn steil yn y Senedd. Daeth y plant a'u rhieni a 200 o westeion at ei gilydd i gofio cyfarfod cyntaf y sefydliad ar 12 Mai 1999. Ffilmiwyd y digwyddiad gan y cyfryngau ac fe drefnodd BBC Wales Today, ITV Wales Tonight a Newyddion S4C ddarllediadau byw.
"Mae hi'n briodol edrych yn ôl ar ein cyraeddiadau yn ystod degawd cyntaf datganoli – ond yn bwysicach fyth, mae angen i ni edrych tua'r dyfodol," meddai Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
"Ein pobl ifainc ni yw'r dyfodol hwnnw, wrth gwrs, a dyna pam yr oedden ni mor awyddus i sicrhau eu bod yn rhan greiddiol o ddigwyddiadau dathlu'r Senedd ar ddydd Mawrth, 12 Mai."
"Y thema ganolog i ni eleni yw cynyddu ymwneud pobl â'r broses ddemocrataidd yng Nghymru – dyna oedd nod creiddiol datganoli, wedi'r cyfan."
"Ac wrth i ni nodi dengmlwyddiant datganoli, pa ffordd well o wneud hynny na thrwy ganolbwyntio ar y plant?"
Gwelir yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn y llun uchod gyda Helen Rosa Bruce (Caerfyrddin), Alisha Rose McGeown (Neyland), Jaizee Williams (Wrecsam), Matthew Aneurin Edwards (Abertawe), Heidi Welton (Caerdydd),Siobhan Collacott (Casnewydd) a Rebecca Wyn Vaughan (Tywyn).

