Gwyl Fwyd Caerdydd!
2 Maw 2009Bydd Gŵyl Fwyd Indiaidd Caerdydd yn cael ei chynnal am y trydydd tro ym mis Mawrth 2009, gyda rhaglen unigryw o ddigwyddiadau i oedolion a phlant fel ei gilydd, gan gynnwys Dosbarthiadau Coginio Arbenigol am ddim, lansio "Pimp my Naan", lansio Cyri Caerdydd arbennig, a chinio gala arbennig er budd elusen 'Help a South Wales Child'.
I ddathlu dyfodiad yr ŵyl o'r newydd, mae'r tri bwyty partner, y Spice Merchant, Spice Route, a Chaffi Kemi, wedi dod at ei gilydd i ddyfeisio Cyri newydd sbon i Gaerdydd yn 2009. Roedd y Cyri Caerdydd cyntaf yn 2008 yn bryd llysieuol poblogaidd ond y si ar led yw mai cyw iâr organig lleol fydd prif gynhwysyn 2009! Caiff canlyniadau'r cyd-goginio'u dadorchuddio yng Nghaffi Kemi yn adeilad Crefftau yn y Bae, ar ddydd Mawrth, 3 Mawrth 4.00yp ac fe fydd ar gael wedi hynny yn y Spice Merchant, y Spice Route, Caffi Kemi ac hefyd yn yr XL Fishbar ar Heol Crwys, wrth i'r ŵyl fwyd ddod i strydoedd Caerdydd!
Bydd cystadleuaeth boblogaidd Fill the Pot yn rhan o'r ŵyl eleni eto, pan gaiff tri chogydd cyri amatur lleol y cyfle i greu, coginio a gweini cyri ym mwyty'r Spice Route. Bydd y pryd buddugol, wedi'i ddethol gan gwsmeriaid y Spice Route, yn rhan o fwydlen swyddogol Cinio Gala'r Ŵyl i gefnogi elusen 'Help a South Wales Child'. Bydd bwyty'r Spice Merchant ym Mae Caerdydd yn cynnal unwaith eto gyfres o Ddosbarthiadau Coginio Arbenigol Rhad ac am Ddim, gan ddefnyddio cynhwysion o Wobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru. Cynhelir y dosbarthiadau bob dydd Sul ym mis Mawrth.
Mae digwyddiadau newydd yr ŵyl eleni'n cynnwys Ready Steady Curry, pan fydd dau dîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i greu'r cyri mwyaf anarferol; bydd her Shake My Wok yn gyfle i gogyddion amatur brwd goginio yng nghegin wok bwyty'r Spice Route; bydd Pimp My Naan yn gyfle i ffans y bara Indiaidd fod yn greadigol ac ennill iPod nano a diwrnod VIP yng Nghanolfan Red Dragon. Bydd yna rysáit wythnosol i'w ddadlwytho o we-fan yr ŵyl, www.cardiffsindianfoodfest.co.uk, a bydd y rhain hefyd yn defnyddio cynhwysion o Wobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru.
Yn dilyn un o lwyddiannau digamsyniol gŵyl 2008, bydd yr ŵyl, ar y cyd â Red Dragon FM a Help a South Wales Child, yn trefnu cinio gala unwaith eto i godi arian ar ran yr elusen. Caiff bwydlen y noson ei pharatoi gan fwytai'r ŵyl, pan ddown nhw at ei gilydd i ddarparu bwyd Indiaidd gorau'r Brifddinas. Dyma gyfle i chi fod yn rhan o ddigwyddiad unigryw a hwyl, yng nghwmni Leigh Jones o Red Dragon, ac i godi arian ar ran elusen swyddogol yr Ŵyl, Help a South Wales Child.
I gael mwy o wybodaeth am holl ddigwyddiadau'r ŵyl eleni, ewch i we-fan yr ŵyl, www.cardiffsindianfoodfest.co.uk.

