Cystadleuaeth Shoot Wales

Cystadleuaeth Shoot Wales

19 Chwef 2009

Mae The Festivals Company wedi derbyn gwahoddiad gan Croeso Cymru i weinyddu cystadleuaeth newydd Shoot Wales.

Mae Croeso Cymru yn chwilio am y gyfres nesaf o ffilmiau byrion fydd yn denu ymwelwyr o Brydain i Gymru ar eu gwyliau yn 2009. Gallwch weld y gyfres bresennol o ffilmiau ar we-fan www.visitwales.co.uk.

Gofynnir i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd o brifysgolion yng Nghymru gyflwyno ffilmiau byrion 3 munud o hyd ar y mwyaf. Gall ffilmiau fod yn weithiau animeiddio neu'n ddrama fyw, wedi'u saethu ar unrhyw fformat.

Y Wobr Gyntaf:

  • cronfa o £2000 i'w gwario ar ddatblygiad gyrfaol yr unigolyn neu'r tîm fydd yn cyflwyno'r ffilm fuddugol
  • wythnos o brofiad gwaith gyda'r asiantaeth hysbysebu fyd-enwog Wieden + Kennedy (yr asiantaeth, un o rai mwya'r byd, a fathodd slogan Just do it Nike!) i'r Cyfarwyddwr yn unig, a £500 o gostau teithio a chynhaliaeth
  • darlledu'r ffilm ar www.visitwales.co.uk

Bydd pedair Ail Wobr yn cynnwys:

  • cronfa o £500 i'w gwario ar ddatblygiad yr unigolyn neu'r tîm fydd yn cyflwyno'r ffilmiau
  • darlledu'r ffilm ar www.visitwales.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ebrill 30ain, 2009.

Cysylltwch a James Nee am ragor o wybodaeth.