Cwcw

Cytundeb Newydd gan S4C

14 Ion 2009

Mae The Festivals Company wedi ennill cytundeb i ddosbarthu ffilm nodwedd newydd S4C, Cwcw, y ffilm gyntaf gan S4C i deithio sinemâu Cymru ers Solomon & Gaenor, ffilm a enwebwyd am Oscar, yn 1999.

Yn ôl telerau'r cytundeb, bydd y cwmni'n cydlynu taith i sinemâu ar hyd a lled Cymru, nifer o ddigwyddiadau addysgol yn ogystal â premiere mawreddog y noson agoriadol.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio ar y prosiect hwn. Mae gan S4C record ardderchog o gefnogi ffilm yng Nghymru ac mae nifer o enwebiadau am Oscar yn tystio i'r gefnogaeth honno," meddai Berwyn Rowlands.

Delyth Jones fu'n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo Cwcw, ffilm sydd yn adrodd hanes Jane Jones, sgriptwraig o Gaerdydd sy'n gweithio ar y gyfres sebon lwyddiannus, "Meddyg Teulu". Ar drothwy'i deugain oed, mae Jane yn wynebu chwalfa nerfol. Ei hunig gysur yw gwaith Virginia Woolf ac mae hi'n ysu am ryddid artistig a phersonol ei harwres, a'r bywyd ystyrlon a chreadigol, wedi'i seilio ar wirionedd, oedd ganddi hi.

Cwcw - Manylion y Daith

Ebrill

Ebrill 17eg – Ebrill 23ain: Canolfan Gelfyddydau Wyeside, Llanfair ym Muallt

Ebrill 22ain: Neuadd Buddug, Bala

Ebrill 23ain: Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Ebrill 26ain ac Ebrill 29ain: Canolfan Ucheldre, Caergybi

Ebrill 28th: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Pontardawe

Mai

Mai 4ydd (gan gynnwys cyflwyniad gan y cyfarwyddwr Delyth Jones): Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

Mai 6ed & 7ed: Theatr Elli, Llanelli

Mai 10ed – 11eg: Theatr Torch, Aberdaugleddau

Mai 13eg: Theatr Harlech, Harlech

Mai 20ed ac 21ain: Theatr y Glowyr Rhydaman, Rhydaman

Mai 21ain: Atrium, Ysgol Diwdiannol Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Cardydd

Mai 26ain (gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Delyth Jones) a’r 27ain: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth

Mehefin

Mehefin 17eg: Theatr Clwyd