Sleeve Face

Ffresh a Swn!

17 Tach 2008

Cyhoeddwyd rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ffresh 2009 yn ystod noswaith agoriadol gŵyl gerdd Sŵn ddydd Iau 13 Tachwedd yn Neuadd Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Mae Sŵn, a drefnir gan gyflwynydd Radio One, Huw Stephens a John Rostron, yn ŵyl gerdd uchelgeisiol sy’n anelu i uno amrywiaeth eang o leoliadau celfyddydau a cherddoriaeth mewn gwahanol rannau o Gaerdydd am 3 diwrnod o gigs, trafodaethau ac arddangosfeydd.

"Mae Sŵn yn debyg i Ffresh mewn llawer ffordd gan ei fod yn dathlu ac yn dangos talent newydd ar draws ystod o ddisgyblaethau felly rydym yn hynod falch i gydweithio gyda’r ŵyl i gyhoeddi rhestr fer 2008" meddai James Nee, Cydlynydd yr Ŵyl.

Cyhoeddwyd y rhestr fer gan Adam Price, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sy’n aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Roedd y noswaith hefyd yn cynnwys set acwstig arbennig gan Cate Le Bon ac ymgais i gynnal y ffotograff grŵp Sleve Face mwyaf erioed, gweler y llun uchod!

Cewch weld y rhest fer 2009 yma.

Cewch weld trailer Ffresh 2009 yma.

The Festivals Company sy’n cynhyrchu Ffresh ar ran Ffresh Ltd. Cynhelir Ffresh 2009 yn Aberystwyth o’r 11 – 13 o Chwefror.