Gwobrau Cyri 09
18 Medi 2008Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddan nhw'n noddi cystadleuaeth Tŷ Bwyta Cyri Cymreig y Flwyddyn yn 2009. Mae'r gystadleuaeth i ddod o hyd i'r tai bwyta Indiaidd gorau yng Nghymru yn cael ei chynnal am y trydydd tro eleni. Llynedd, derbyniwyd mwy na 6,000 o bleidleisiau gan aelodau'r cyhoedd yng Nghymru dros eu hoff fwytai nhw.
"Bydd y nawdd newydd hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn galluogi i'r gystadleuaeth hyrwyddo'r cynhyrchion Cymreig gorau. Mae gennym ryw 260 o fwytai Indiaidd yng Nghymru ac mae nifer ohonynt eisoes yn defnyddio cynnyrch Cymreig o safon. Hoffem ni weld y niferoedd hyn yn cynyddu ac r'yn ni'n credu bod y gystadleuaeth hon yn ffordd berffaith o hyrwyddo hynny," meddai Berwyn Rowlands o The Festivals Company.
By Hyrwyddo Cig Cymru a Lager Kingfisher yn noddwyr ar y gystadleuaeth ers y dechrau a byddant yn rhan o'r gystadleuaeth eleni am y drydedd flwyddyn o'r bron. Fel datblygiad newydd ar y gystadleuaeth yn 2009, bydd gofyn i'r 20 bwyty sydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol gynnwys pryd sy'n defnyddio cig oen Cymreig ar eu bwydlenni.
"Mae Hyrwyddo Cig Cymru yn falch iawn i fod yn un o brif noddwyr Tŷ Bwyta Cyri Cymreig y Flwyddyn. Mae cig oen Cymreig yn gynhwysyn blasus a moethus sydd yn gweddu'n dda i nifer helaeth o brydau bwys – gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae'r posibiliadau sydd yn deillio o'r gystadleuaeth hon yn niferus – gellir cyfuno cig oen gorau Cymru â'r coginio Indiaidd gorau i greu cyri gwirioneddol Gymreig," meddai Graham Titchener, Rheolwr Marchnata Hyrwyddo Cig Cymru.
"Mae Kingfisher Lager yn falch iawn o'r cysylltiad agos eleni unwaith eto â chystadleuaeth Tŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn ac yn dymuno pob dymuniad da i bawb sydd yn gweithio yn y diwydiant yng Nghymru," meddai Brian Dozey, Cyfarwyddwr Marchnata UBSN Cyf, unig ddosbarthwyr Ewropeaidd Kingfisher, y lager Indiaidd mwyaf poblogaidd yn y byd.
Caiff cystadleuaeth Tŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn ei lansio ar ddydd Iau, 27 Tachwedd 2008.

