Yr Hamlet Gorau Erioed
29 Awst 2008Cyhoeddwyd Rheithgor Rhyngwladol Gwobr Iris heddiw gan Lywydd Gwobr Iris, Andrew Pierce. Mae Gwobr Iris, y wobr fwyaf yn y byd am ffilm fer lesbiaidd a hoyw, yn rhan o Ŵyl Gwobr Iris sydd yn digwydd yng Nghymru, yn sinemâu Cineworld a Chapter Caerdydd rhwng yr 2ail – 4ydd Hydref 2008.
"Mae’r Rheithgor Rhyngwladol, dan gadeiryddiaeth Elan Closs Stephens, cyn Lywodraethwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig, yn cynnwys detholiad o unigolion sydd ar flaen y gad yn eu meysydd unigol. Mae’r rhain yn cynnwys yr actor amryddawn Simon Russell Beale – yn ôl darllenwyr y Daily Telegraph, ei berfformiad ef o Hamlet yn y Theatr Genedlaethol yn 2000 oedd y gorau erioed. A phwy ydw i i anghytuno â hynny!" meddai Andrew Pierce, Golygydd Cynorthwyol, The Daily Telegraph a Llywydd Gwobr Iris.
"Mae’r rheithgor hefyd yn cynnwys nifer o’r cyfarwyddwyr a’r sgriptwyr y mae eu gweithiau’n cael eu dangos yn rhan o’r ŵyl. Mae’r rhestr gyflawn o aelodau’r rheithgor fel a ganlyn: Elan Closs Stephens (Cadeirydd), Dee Rees (Enillydd Gwobr Iris 2007), Simon Russell Beale (Actor, DG), David Pearce (Rhaglennydd, Awstralia), Gwion ap Rhisiart (Beirniad ffilm, Cymru), Johann Hari (Newyddiadurwr, DG), Tom Abell (Dosbarthwr, DG), Lewis Tice (Dosbarthwr, UDA), Casper Andreas (Cyfarwyddwr, UDA), Yair Hochner (Cyfarwyddwr, Israel), Nia Dryhurst (Cyfarwyddwr, Cymru), Jonah Blechman (Actor, UDA), Todd Stephens (Cyfarwyddwr, UDA)," ychwanegodd.
"Mae hi’n anrhydedd fawr cael fy ngwahodd i gadeirio rheithgor Gwobr Iris eleni. Bydd hi’n fraint cael gweld y ffilmiau lesbiaidd a hoyw gorau ar y sgrin fawr," meddai Elan Closs Stephens, Athro Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru Aberystwyth.
"Mae’r rheithgor rhyngwladol yn gasgliad cyffrous a chosmopolitan o unigolion, o’r UDA, Awstralia, Israel a phedwar ban byd. Ynghyd â’r aelodau Prydeinig, yn cynnwys Gwion a Nia o Gymru, dw i’n gwbl hyderus y byddwn ni’n gallu dod o hyd i’r cyfarwyddwr fydd yn gwneud y defnydd gorau o’r wobr ardderchog ac unigryw hon," ychwanegodd.
Bydd y rheithgor yn dosbarthu’r gwobrau canlynol:
Gwobr Iris – prif wobr yr ŵyl, gaiff ei chyflwyno am y ffilm fer orau. Gwahoddir y cyfarwyddwr buddugol yn ôl i Brydain i wneud ffilm fer newydd.
Y Ffilm Fer Brydeinig Orau Skillset – Noddir gan Skillset, bydd yr enillydd yn derbyn £1,000 i’w ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant.
Gwobr Deithio Goleudy – £500 mewn arian parod,wedi’i gyflwyno i enillydd Gwobr Iris 2008, i’w galluogi nhw i ddychwelyd i Brydain i wneud eu ffilm fer newydd.

