Gwobr newydd gwerth £1,000
26 Mehef 2008Cyhoeddodd The Festivals Company heddiw (27 Mehefin 2008) y bydd Gŵyl Gwobr Iris yn cynnig gwobr ariannol newydd o £1,000 i’r ffilm nodwedd orau gaiff ei dangos dros dridiau’r ŵyl.
Caiff saith o ffilmiau nodwedd newydd eu dethol gan raglennwyr yr ŵyl ar gyfer gŵyl mis Hydref 2008 ac fe fydd yr orau – ym marn Cyfeillion Iris, yn derbyn £1,000 (tua $2,000).
"R’yn ni’n falch iawn i allu cynnig y wobr ariannol hon diolch i haelioni’r Ymgynghorydd Cyllidol Annibynnol, Martin Briggs," meddai Andrew Pierce, Llywydd Gwobr Iris a Chyd-Olygydd y Daily Telegraph (llun ar y chwith).
"Mae gennym ni berthynas gref â gwneuthurwyr ffilmiau byrion ledled y byd trwy gyfrwng prif wobr Iris, y wobr fwyaf yn y byd i ffilm fer LGBT.
Bydd ychwanegu’r wobr newydd hon at ein portffolio yn galluogi i’r ŵyl ddatblygu perthynas â’r gymdeithas ehangach o gyfarwyddwyr ffilmiau nodwedd," ychwanegodd.
"Dw i wrth fy modd yn gallu noddi Gŵyl Gwobr Iris. Cefais fy mhlesio’n fawr â’r ŵyl gyntaf y llynedd a dw i’n credu’n gryf y bydd gŵyl eleni’n blatfform gwych i gefnogi talent ffilm LGBT," meddai Martin Briggs, Ymgynghorydd Cyllidol Annibynnol, sydd yn gweithio yng Nghaerdydd.
"Bydd y nawdd hwn yn galluogi i’r Ŵyl gynnig gwobr ariannol o £1,000 i’r ffilm nodwedd orau gaiff ei dangos yn ystod yr ŵyl ac mae hi’n grêt taw Cyfeillion Iris fydd yn dewis enillydd Gwobr Ffilm Nodwedd Cyfeillion Iris. Mae’n ffordd ardderchog o sicrhau bod y cyhoedd yn chwarae rhan uniongyrchol yn yr ŵyl," ychwanegodd Martin.
Estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Gŵyl Gwobr Iris tan ddydd Llun, 14 Gorffennaf 2008.
Bydd un o adeiladau mwyaf nodedig Caerdydd (llun uchod) yn dathlu dychweliad Gŵyl Gwobr Iris ym mis Hydref.

