Llywyddion Newydd
9 Ebr 2008Bu i’r Festivals Company gadarnhau heddiw (09/04/08) mai Andrew Pierce Golygydd Cynorthwyol y Daily Telegraph (Llundain) a Christopher Racster sy’n gweithio yn LA yw Llywyddion newydd Gwyl Gwobr Iris. Mae’r ddau am gadw cwmni gyda’r actor poblogaidd Matthew Rhys (Brothers and Sisters) a’r gwneuthurwr ffilm o’r Rhyl Sara Sugarman (Very Annie Mary) sydd eisioes yn Lywyddion.
"Fel newyddiadurwr sy’n gweithio yn Llundain roeddwn wrth fy modd i dderbyn gwahoddiad i fod yn rhan o reithgor yr Wyl gyntaf y llynedd. Dwi’n cofio son yn ystod y seremoni wobrwyo fy mod yn gobeithio cael gwahoddiad i ddod nol i Gaerdydd. Felly pan gefais fy nghwahodd i fod yn un o Lywyddion yr Wyl doedd dim angen i mi feddwl cyn ymateb yn gadarnhaol," medda Andrew Pierce.
"Ma’r Wyl hon am fod yn rhan pwysig o’r calendr diwyllianol. Dwi’n hyderus y byddwn ym gweld cynydd yn y nifer o newyddiadurwyr o Lundain a thu hwnt fydd yn rhoi sylw i’r digwyddiad. Dwi’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda’r tim yng Nghaerdydd i sicrhau llwyddiant yr Wyl," ychwanegodd.
"Dwi’n hapus iawn i fod yn rhan o Wyl Gwobr Iris. Mae’r rhwydwaith byd eang o chwaer-wyliau sy’n cefnogi Iris eisioes yn cynnwys 6 o’r UD. Fel un o Lywyddion Iris fy rol I yw i sicrhau fod pawb sydd angen gwybod am Iris yr ochr yma o’r Iwerydd yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd. Dwi’n rhagweld y bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld mwy a mwy o bobol yn dod i gydnabod gwaith pwysig Iris," medda Christopher Racster.
"Mae sicrhau cefnogaeth Andrew a Christopher yn gaffeiliad mawr i’r Wyl. Drwy gydweithio gyda’r noddwyr, partneriaid ryngwladol a lleol gan gynnwys Cyfeillion Iris dwi’n ymwybodol bod y rhwydwaith gyda ni i weld Iris yn datblygu i fod yn ddigwyddiad pwysig rhyngwladol wedi ei leoli yma yng Nghaerdydd," medda Berwyn Rowlands o’r Festivals Company.
Cynhelir Gwyl Gwobr Iris 2008 yng Nghaerdydd rhwng yr 2 – 4 Hydref.
