Ffilmiau Byr Cyngor Prydeinig Cymru
1 - 31 Maw 2008Mae The Festivals Company wedi cynhyrchu cyfres o 14 o ffilmiau byr ar gyfer Cyngor Prydeinig Cymru fel rhan o brosiect datblygu ac ymchwil.
Mae’r ffilmiau (sy’n amrywio rhwng 1 a 2 funud o ran hyd) yn dangos tri o bobl yn siarad am fanteision gweithio ac astudio dramor gyda chymorth y Cyngor Prydeinig.
Y tri a gymerodd ran oedd Marc Rees, yr artist enwog o Gymru a wnaeth lawer o waith dramor drwy Celf Ryngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig, David Pedwell, Pennaeth Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd a deithiodd i China yn ddiweddar gyda chymorth Cyngor Prydeinig Cymru i wneud cysylltiadau partneriaeth gydag ysgol yn Chongqing (a ynganir Chongching) a Lowri Jones, a raddiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac a fu’n astudio dramor drwy gynllun Erasmus a weinyddir yn awr gan Gyngor Prydeinig Cymru.
"Yr hyn yr oeddem eisiau ei gyfleu’n glir drwy’r gyfres o ffilmiau oedd y cyfleoedd gwych y mae Cyngor Prydeinig Cymru yn eu cynnig i unrhyw un sy’n dymuno gweithio neu astudio dramor i sefydlu a datblygu cysylltiadau rhyngwladol", meddai James Nee o The Festivals Company. "Roeddem felly eisiau cadw’r ffilmiau mor syml ag oedd modd a gadael i bobl a fanteisiodd o gefnogaeth y Cyngor Prydeinig i gyfleu eu profiadau i gamera heb fawr neu ddim cyfarwyddyd gennym ni. Roedd profiad pawb a gymerodd ran mor wahanol a diddorol, roeddem yn hyderus y byddai’r ffilmiau yn sbarduno diddordeb pobl i fod eisiau gwybod mwy am weithio dramor drwy gymorth y Cyngor Prydeinig".
Hoffai The Festivals Company ddiolch i Marc, David a Lowri am roi eu hamser i gymryd rhan yn y ffilmiau byr.

