Gwyl Bwyd Indiaidd Caerdydd 2008

Gwyl Bwyd Indiaidd Caerdydd 2008

1 - 31 Maw 2008

Mae arddangosiadau coginio, cig oen o Gymru, dawnsio Bollywood, dosbarthiadau meistr coginio a dadlennu cyri newydd ar gyfer y brifddinas yn rhai o uchafbwyntiau Gŵyl Bwyd Indiaidd Caerdydd 2008.

Daeth pump o fwytai Indiaidd gorau'r brifddinas ynghyd i gyflwyno gwledd i’r synhwyrau yn ystod mis Mawrth gyda phob un ohonynt yn paratoi bwydlen arbennig yn ystod yr ŵyl i ddod â dŵr i’r dannedd. Bwytai’r ŵyl yw Spice Merchant, Cinnamon Tree, Spice Route, Punithas a Mango House.

Dywedodd Berwyn Rowlands, trefnydd yr ŵyl: "Os ymwelwch ag unrhyw un o’r pum bwyty, medrwch flasu Cyri Caerdydd newydd sbon a fydd ar gael drwy The Cardiff Currygydol yr ŵyl. Beth sydd ynddo? Dewch i ganfod beth yw’r ateb drwy ymweld ag un o’r bwytai a darganfod disg lofnod newydd y ddinas. Medrech gael eich synnu gan yr hyn a luniodd y pum chef sy’n adlewyrchu nid yn unig amrywiaeth a blasau’r brifddinas ond hefyd yn herio rhai camsyniadau am fwyd o is-gyfandir India."

Mae gan bob un o’r bwytai ddigwyddiadau arbennig ar y gweill yn ystod y mis fel y gall cwsmeriaid ddysgu mwy am ein bwyd mwyaf poblogaidd; rhoi cynnig ar rywbeth newydd a darganfod y cuisine hynod o amrywiol a safon uchel sydd ar gael, a hefyd ymuno yn yr hwyl.

Bydd pob un o’r pum bwyty yn dod ag arbenigedd eu chef eu hunain i ginio gala ar 31 Mawrth yng Nghanolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd er budd Help a South Wales Child. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gael drwy ffonio 029 2094 2955.Mae’r rhaglen lawn ar gael ar wefan yr ŵyl.

Cynhyrchir yr ŵyl gan The Festivals Company a’i noddi gan Hybu Cig Cymru a Kingfisher.

www.cardiffindianfoodfest.co.uk