Digwyddiad Mawr Canol
4 Maw 2008Cynhyrchodd The Festivals Company Limited ddigwyddiad undydd ar gyfer Canol - Rhwydwaith Cyfryngau Canolbarth Cymru - a gynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar 4 Mawrth.
Diben Digwyddiad Mawr Canol oedd edrych pa gyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn gweithio yn y sector cyfryngau ym marchnad fyd-eang heddiw yn ogystal â chyffwrdd ar faterion perthnasol eraill yn effeithio ar fusnesau bach a chanolig sy’n gweithredu yng Nghymru.
Nod arall y digwyddiad oedd dod ynghyd â phobl o’r un anian i greu fforwm ar gyfer trafod a dadlau a chydweithio.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys Nick Powell, yr entrepreneur a gwneuthurydd ffilm adnabyddus; Gwion Owain, a benodwyd yn ddiweddar yn Brif Weithredydd TAC; Hywel William o OFCOM; Richard Baker, sefydlydd Sequence; Elin Rhys, sefydlydd Telesgop a Mike Wallwark o Gomisiwn Sgrin Cymru.

