Gwyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru - 2008
14 - 15 Chwef 2008Cynhaliwyd Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru - 2008 yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar 14 a 15 Chwefror, ac fe’i trefnwyd unwaith eto gan The Festivals Company Cyf. Roedd digwyddiad 2008 yn un o’r mwyaf llwyddiannus yn hanes yr ŵyl - sydd bellach yn ei chweched flwyddyn - gyda dros 500 o bobl yn bresennol ar gyfer y digwyddiad deuddydd, yn cynnwys y nifer uchaf erioed o gynrychiolwyr o’r diwydiant.
Roedd rhaglen yr ŵyl yn cynnwys sesiynau panel a dosbarthiadau meistr gyda phroffesiynolion y diwydiant a dangosiadau o waith myfyrwyr o Gymru a thramor. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys Dosbarth Meistr "ysgrifennugolau" gyda chydweithfa Lichtfaktor o’r Almaen (llun uchod, yn rhoi eu Dosbarth Meistr cyntaf ym Mhrydain) a Dosbarth Meistr ar Sinema Affricanaidd gyda’r gwneuthurwyr ffilm enwog o Affrica, Gaston Kaboré a Cheick Fantamady Camara (llun gyda Marc Evans, Llywydd yr Ŵyl), lansio Sesh (cynllun newydd S4C), Dosbarth Meistr Ysgrifenwyr Sgrin gyda Tim Firth (awdur Calendar Girls a Kinky Boots), a dychweliad Pitch to Win lle pitsiodd tri myfyriwr eu syniadau gerbron panel o broffesiynolion y diwydiant a chynulleidfa’r ŵyl. Cafodd yr holl sesiynau o’r Brif Neuadd eu dangos ar wefan yr ŵyl (ffresh.com) ac ar gael yn awr (cliciwch yma).
Roedd y rhaglen o ddangosiadau’n cynnwys yn bennaf y ceisiadau ar y rhestr fer o Wobrau Ffresh 2008, a
chyhoeddwyd yr enillwyr mewn tair seremoni wobrwyo. Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru enillodd y nifer fwyaf, chwech allan o’r ddeuddeg gwobr. Roedd y sefydliadau buddugol eraill yn cynnwys Atrium, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru a Dimension 10. Mae pob un o’r ceisiadau ar y rhestr fer yn dal i fod ar gael i’w gweld ar wefan yr ŵyl. Roedd y rhaglen ddangosiadau hefyd yn cynnwys gwaith myfyrwyr o Wlad Pwyl, Ffrainc, Iwerddon, Yr Alban a Burkina Faso.
"Roeddem wrth ein boddau gyda’r nifer fawr o gynrychiolwyr y diwydiant oedd yn bresennol yn yr ŵyl eleni a’u hawydd i ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o dalent delwedd symudol sy’n astudio yng Nghymru ar hyn o bryd", meddai James Nee, Cydlynydd yr Ŵyl.
Dywedodd Maggie Russell, cadeirydd yr ŵyl: "Am ddau ddiwrnod llawn, roedd y Ganolfan Gelfyddydau yn llawn cyffro, nid yn unig wneuthurwyr film yn frwd i weld os oeddent wedi ennill gwobr a phobl yn siarad am yr amrywiaeth o arddangosiadau, sgyrsiau a chyflwyniadau ond hefyd rwydweithio, rhannu profiadau a, gobeithio, y genhedlaeth nesaf o ddiwydiant delwedd symudol ffyniannus Cymru yn cwrdd â’u darpar gyflogwyr.
"Daeth talent anhygoel i’r fei eleni ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut y bydd y prosiectau a’r syniadau a welsom yn Ffresh yn datblygu yn y misoedd a blynyddoedd i ddod. Roeddem hefyd yn medru dweud beth mae enillwyr gwobrau gwyliau blynyddol yn ei wneud yn awr, ac rwy’n gwybod fod hynny’n ysbrydoliaeth i’r myfyrwyr a wnaeth ddigwyddiad eleni yn gymaint o lwyddiant.
"Mae hefyd yn dangos y gall sefydliadau addysgol ym mhob rhan o Gymru weithio’n agos gyda’r diwydiant cyfryngau a hefyd weithredu fel arloeswyr drwy roi cipolwg i’r cyfryngau traddodiadol o’r dyfodol."
Roedd cyllidwyr a chefnogwyr digwyddiad 2005 yn cynnwys Asiantaeth Ffilm Cymru, Sequence, MultiStream, Derwen, S4C, BBC Cymru Wales, Nesta, Canol, Cyngor Prydeinig Cymru, Creative Business Wales, Skillset, Academi Sgrin Skillset, Cyfle, Unesco Cymru, TAC, TVYP, Bafta Cymru, It’s My Shout, TAPS, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth.
www.ffresh.com

