Ty Bwyta Cyri'r Flwyddyn 2008
27 Nov 2007 - 12 Maw 2008Dychwelodd Tŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn yn niwedd 2007, pan ddechreuodd trefnwyr y gystadleuaeth - The Festivals Company Limited - chwilio am hoff fwyty Indiaidd y genedl.
Roedd dros 300 o fwytai Indiaidd yng Nghymru yn gymwys i gystadlu am y wobr, bellach yn ei hail flwyddyn, a chafodd y gystadleuaeth ymateb hynod gan y cyhoedd gyda dros 6000 wedi cofrestru ar gyfer bwytai ledled Cymru.
Pan gaeodd y bleidlais i’r cyhoedd yn Ionawr 2008, trosglwyddwyd y broses feirniadu i feirniaid annibynnol rhanbarthol a ymwelodd â’r 5 prif fwyty ym mhob un o dri rhanbarth Gogledd, Canolbarth a Gorllewin a De Cymru. Blasodd y beirniaid y bwyd, profi’r awyrgylch a chwrdd â’r bobl gysylltiedig cyn penderfynu ar y tri enillydd rhanbarthol dilynol:
Gogledd: Asha Balti House, Llanrwst
Canolbarth a Gorllewin: Sheesh Mahal, Llanelli
De: Nawab Tandoori Restaurant, Abertawe
Bu’r tri enillydd rhanbarthol wedyn yn brwydro i ddod yn Dŷ Bwyta Cyri'r Flwyddyn Cymru 2008 drwy goginio ar gyfer y beirniaid annibynnol cenedlaethol (llun): Shaek Ali (perchennog Sopna Indian Restaurant, Pontrug ger Caernarfon - enillydd Tŷ Cyri y Flwyddyn Cymru 2007), Peter Stead (yr awdur, darlledwr a hanesydd diwylliannol o Abertawe) ac Uma Sims (sefydlydd bwyty gwobrwyol y Cardamom Queen). Rhoddwyd ystyriaeth i sgiliau cyflwyno, blas y bwyd, defnydd cynnyrch Cymreig a gallu’r tri yn y rownd derfynol i ymdopi gan bwysau .
Cyhoeddwyd enillydd cystadleuaeth 2008 mewn seremoni wobrwyo yn Y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, 12 Mawrth. O flaen cynulleidfa o westeion yn cynrychioli Tai Bwyta Indiaidd Cymru, ynghyd â beirniaid a noddwyr y gystadleuaeth, cyhoeddodd Llywydd y Cynulliad a’r cyri-garwr, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, mai’r Sheesh Mahal oedd enillydd y gystadleuaeth.
Derbyniwyd y wobr gan reolwr-gyfarwyddwr y bwyty, Shuel Ahmed, sydd yn gyfrifol am y busnes teuluol yn Llanelli.
Daeth y Sheesh Mahal i’r brig ar ôl curo cystadleuwyr cryfion ar hyd a lled Cymru. Cyhoeddwyd rhestr fer o dri bwyty – y ddau arall oedd yr Asha Balti House yn Llanrwst a’r Nawab Tandoori yn Abertawe. Roedd perchnogion y bwytai hyn hefyd yn bresennol ar gyfer y cyflwyniad mawreddog.
"R’yn ni’n falch iawn iawn i fod wedi ennill y wobr hon. Pan ddywedais wrth fy nhad ein bod ni wedi ennill roedd e wrth ei fodd. Fe yw perchennog y bwyty ac fe gymrais i’r awenau ganddo rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl. Mae e’n falch iawn ohona’ i," meddai rheolwr-gyfarwyddwr y Sheesh Mahal, Shuel Ahmed.
Wrth gyflwyno’r wobr dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, "Mae yna draddodiad hir-sefydlog o fwytai Indiaidd yma yng Nghymru ac mae cyri wedi dod yn rhan o fwydlen y wlad. Mae’r ffaith bod yna 260 o fwytai cyri yng Nghymru yn tystio i ba mor boblogaidd yw bwyd Indiaidd."
"Bu’n brofiad hynod ddiddorol. R’yn ni wedi dod o hyd i brydau bendigedig mewn bwytai bach a mawr ar hyd a lled Cymru. Ces i fy synnu gan amrywiaeth y coginio ac ro’n i’n falch iawn i gael blasu cymaint o fwyd o ansawdd mor uchel. Bu’n fraint hefyd cael cwrdd â chynifer o bobl ddiddorol ar hyd y ffordd," meddai Uma Sims, un o’r Beirniaid Cenedlaethol.
"Roedd yr ymateb i’r gystadleuaeth eleni yn ffantastig. Cafwyd mwy na 6000 o bleidleisiau. R’yn ni eisoes wedi dechrau datblygu cystadleuaeth y flwyddyn nesa’ pan fyddwn ni unwaith eto’n dathlu hoffter Cymru o fwyd Indiaidd," meddai Berwyn Rowlands o The Festivals Company, y cwmni fu’n gyfrifol am drefnu’r gystadleuaeth.
Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei darlledu’n rhan o’r rhaglen Some Like it Hot, sydd wedi bod yn dilyn y gystadleuaeth ers y dechrau. Bydd y rhaglen i’w gweld ar ITV Cymru bob nos Iau am 10.35yh am dair wythnos o Fawrth 20fed 2008 ymlaen.
www.welshcurryhouse.co.uk

