Ty Bwyta Cyri'r Flwyddyn 2007
1 Ion - 31 Maw 2007Mae yna dros 300 o dai bwyta cyri yng Nghymru ac erbyn mis Mawrth bydd un wedi ei goroni’r gorau yn y wlad. Bydd y gystadleuaeth i ganfod Ty Bwyta Cyri’r Flwyddyn 2007 yn cael ei lawnsio yn gynnar ym mis Ionawr 2007 gyda’r pleidleisio ar lein yn cau ar Chwefror 12. Cyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar yr 21 Mawrth 2007.
Cynhyrchir y gystadleuaeth gan y Festivals Company ac mae’r prosiect eisioes wedi sicrhau cefnogaeth Kingfisher Lager, Hybu Cig Cymru a’r Spice Merchant. Partneriaid cyfryngol y gystadleuaeth yw ITV Wales fydd yn ffilmio’r cyfan ar gyfer Some Like it Hot, tair rhaglen hanner awr gyda Hywel James.
Gwelir uchod Shadek Ali, Sid yw ffrindiau, o'r Sopna, Felin Wen ger Caernarfon yn dathlu yn y Senedd, ym Mae Caerdydd ar ol iddo dderbyn y wobr ar gyfer 2007.

