TVYP (Television and Young People)

TVYP (Television and Young People)

23 - 27 Awst 2007

Mae The Festivals Company yn gweithio gyda Teledu a Phobl Ifanc (TVYP) i greu rhaglen allestyn yng Nghymru a fydd yn helpu i godi proffil y digwyddiad a chynyddu’r nifer o geisiadau a dderbynnir gan bobl ifanc sy’n byw ac yn astudio yng Nghymru.

TVYP – braich talent elusennol Gŵyl Teledu Rhyngwladol Caeredin – yw prif fforwm y DU ar gyfer pobl ifanc sydd ag uchelgais i weithio ym maes teledu. Mae’r cwrs pum diwrnod RHAD AC AM DDIM wedi ennill bri fel academi rhagoriaeth dros y 17 mlynedd ddiwethaf gan roi’r man cychwyn perffaith ar gyfer gyrfa ym maes teledu.

Mae TVYP yn helpu pobl ifanc 18+ oed i gychwyn arni yn y diwydiant teledu ac mae’n dychwelyd i Gaeredin am yr ail flynedd ar bymtheg adeg gŵyl banc mis Awst. Mae’r cynllun uchel ei glod yn gyfle unigryw i glywed a gweithio gydag enwau adnabyddus o’r tu ôl ac o flaen y camera, ac mae wedi helpu i lansio cannoedd o yrfaoedd teledu. Mae rhai a fynychodd yn y gorffennol bellach yn gweithio mewn llu o swyddi ar draws y diwydiant, o fod yn gynhyrchydd ar The Charlotte Church Show Channel 4 i Adloniant y BBC i wneud ffilmiau pump.

Bu S4C yn gefnogwr tymor hir i’r digwyddiad ac mae’n parhau i helpu TVYP wrth annog talent ifanc o Gymru i fynychu’r digwyddiad. "Mae TVYP yn rhoi golwg go iawn i bobl ifanc ar sut mae’r diwydiant yn gweithio," meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C. "Mae’r profiad a gânt wrth weithio gyda gweithwyr proffesiynol tu ôl ac o flaen y camera yn amhrisiadwy ac mae llawer wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y maes teledu. Mae angen i ni gyd fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau i sicrhau fod y DU yn parhau i fod yn flaen y gad yn fyd-eang ym mhob maes o’r diwydiannau creadigol. Mae TVYP yn rhan bwysig o’n hagenda sgiliau mewn teledu ac rydym ni yn S4C yn falch i’w gefnogi eto eleni."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer TVYP eleni yw 4 Mai. I gael gwybodaeth bellach am y digwyddiad cliciwch yma.