Darllediadau Etholiadol

Darllediadau Etholiadol

26 Maw - 3 Mai 2007

Mae The Festivals Company wedi cwblhau tair ffilm fer lwyddiannus a ddarlledwyd ar y teledu a radio ym mis Ebrill 2007 fel Darllediadau Etholiadol i Blaid Cymru. Cafodd y tair ffilm 2’ 40" eu datblygu, eu hysgrifennu, eu cyfarwyddo a’u cynhyrchu gan y cwmni yn dilyn trafodaethau gyda’r cleient.

Dywedodd Adam Price, Cyfarwyddydd Etholiadau Plaid Cymru: "Fe wnaethom benderfynu’n gynnar wrth gynllunio ein hymgyrch i fod yn flaengar ac uchelgeisiol. Teimlem fod darllediadau gwleidyddol yn un maes lle’r oedd angen i ni fuddsoddi mwy o adnoddau, a rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ein negeseuon etholiadol allweddol. Nod y darllediadau hyn oedd tynnu sylw at rai o’n hymrwymiadau etholiadol allweddol mewn modd gwahanol i ddarn syml i gamera."

"Fe wnaethom sefydlu a chytuno ar nifer o reolau sylfaenol i lywio ein gwaith wrth gynhyrchu’r ffilmiau. Yn gyntaf, teimlem y dylai’r ffilmiau gael neges gadarnhaol a chael eu defnyddio i gyflwyno ymrwymiadau etholiadol allweddol gan y cleient. Yn ail, penderfynwyd ei bod yn bwysig cyflwyno’r negeseuon cadarnhaol hyn drwy drydydd parti, hynny yw unigolion, yn yr achos hwn actorion yn cynrychioli plaid wleidyddol arall, sy’n trafod ymrwymiadau maniffesto’r cleient," meddai Berwyn Rowlands.

"Yn gyffredinol, caiff Darllediadau Etholiadol eu hystyried yn bethau sych iawn - maent yn tueddu i ddiflasu yn hytrach na diddanu. Fel cwmni, roeddem yn edrych ymlaen at roi cynnig ar ddynesiad mwy anghonfensiynol at y fformat, yn hytrach na defnyddio tactegau mwy traddodiadol Darllediadau Etholiadol. Fe wnaethom hyn drwy greu tri chymeriad a datblygu eu perthynas drwy naratif oedd yn trafod materion cyfoes yng Nghymru a ddynodwyd gan y cleient. Ein nod oedd ymrwymo’r gynulleidfa drwy ddrama gonfensiynol oedd yn ddifyr ac yn gwneud iddynt feddwl," meddai James Nee.

"Cafodd y ffilm gyntaf eisoes ei gweld gan gynulleidfa fawr ar YouTube, sydd efallai’n dangos fod y ffilmiau yn ysgogi mwy o ddiddordeb nag sy’n arferol ar gyfer darllediadau etholiadol cyffredin. Mae hefyd yn dangos nad oes unrhyw ddrwg mewn ychydig o bryfocio i ennyn diddordeb pobl mewn gwleidyddiaeth," ychwanegodd Berwyn Rowlands.

Pennawd 1 - Iaith Gymraeg

Pennawd 2 - Iaith Gymraeg

Pennawd 3 - Iaith Gymraeg