Ffresh – gwyl delwedd symudol myfyrwyr Cymru - 2007
15 - 16 Chwef 2007Gwyl flynyddol yw ffresh sy’n dathlu gwaith myfyrwyr sy’n astudio’r ddelwedd Symudol yng Nghymru. Y Festivals Company oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r Wyl eleni ar ran Asiantaeth Ffilm Cymru.
Stephen Frears, dosbarthu ffilmiau, cyflwyno syniadau, Torchwood, Gwobrau a Brian Clough – roedd y rhain i gyd yn bynciau llosg yng Ngŵyl Ffresh 2007. Roedd rhaglen yr ŵyl eleni yn fwy eclectig ac uchelgeisiol nag erioed o'r blaen, ac fe groesawyd dros 30 o westeion arbennig i'r ŵyl o 10 o wledydd gwahanol. Roedd yna gyfoeth o dalent i'w weld, wrth i'r ŵyl ddathlu a chydnabod y gweithiau gorau gan fyfyrwyr delwedd symudol Cymru.
"Roedd Ffresh 2007 yn llwyddiant y tu hwnt i bob disgwyliad. Roedd yr ymateb gan fyfyrwyr a gwesteion yn hollol gadarnhaol," meddai Cydlynydd yr Ŵyl, James Nee. "Roedd gan yr ŵyl eleni ffocws cryf ar y diwydiant proffesiynol ac ar faterion rhyngwladol – ffocws oedd wrth fodd cynulleidfa'r ŵyl. Roedd safon y gweithiau a welwyd yn dystiolaeth glir unwaith eto bod talent newydd Cymru yn barod i chwarae rhan flaenllaw yn niwydiant y ddelwedd symudol yng Nghymru, Prydain a thu hwnt."
Ar y diwrnod cyntaf, croesawyd y nifer fwyaf o bobl erioed i'r ŵyl. Daethant yn llu i weld sesiynau ar wyliau ffilm, ail-frandio llwyddiannus S4C a chyflwyniad i fusnes bywiog dosbarthu ffilmiau – yn ogystal â Dosbarth Meistr gan y cynhyrchydd nodedig, Nik Powell, wedi'i gyflwyno gan Lywydd yr ŵyl, Marc Evans.
Daeth y diwrnod cyntaf i glo teilwng yng nghwmni'r cyfarwyddwr Stephen Frears (enwebiad Oscar) a roddodd gipolwg prin i gynulleidfa'r ŵyl ar grefft y cyfarwyddwr. Datgelodd hefyd y byddai'i ffilm nesaf yn 'bio-pic' o'r rheolwr pêl-droed chwedlonol Brian Clough, â'r actor Cymreig Michael Sheen yn chwarae'r ffigwr dadleuol ("Am fod Michael yn edrych fel Clough," meddai Frears).
Roedd uchafbwyntiau'r ail ddiwrnod yn cynnwys Dosbarth Meistr ar grefft y Cynllunydd Cynhyrchu, cyfweliad â'r animeiddiwr cwlt, Phil Mulloy a sesiwn i Berswadio'r Gwybodusion (a drefnwyd ar y cyd â Academi Sgrin Cymru Skillset), lle cafodd tri myfyriwr gyfle i gyflwyno syniadau ar gyfer prosiect aml-blatfform i banel o aelodau'r diwydiant proffesiynol a chynulleidfa'r ŵyl. Enillwyr y gystadleuaeth oedd Laurence Hall ac Alasdair Davies o Brifysgol Cymru, Llanbed, a dderbyniodd werth £500 o hyfforddiant gan Skillset Cymru a lle ar gwrs Insight Out Nesta, sydd yn cynnwys hyd at £5,000 o nawdd cychwyn. "R'yn ni'n gobeithio gwahodd Laurence ac Alasdair yn ôl i'r ŵyl yn 2008 i ddweud wrthym sut hwyl gafon nhw ar eu prosiectau dros y flwyddyn sydd i ddod. Mae hi'n deimlad grêt bod Ffresh yn ŵyl nid yn unig ar gyfer trafod syniadau ond hefyd nawr ar gyfer eu symud nhw ymlaen i gam nesaf y broses gynhyrchu," meddai Cadeirydd yr Ŵyl, Maggie Russell.
Ar gyfer sesiwn olaf yr ŵyl, croesawyd Richard Stokes (Cynhyrchydd Torchwood) a Cath Tregenna (un o sgriptwyr y gyfres) i drafod gyda Maggie Russell y broses o gynhyrchu'r sioe boblogaidd. Wrth ymateb i gwestiynau'r gynulleidfa frwd, dywedodd Richard Stokes y gellid disgwyl gweld ail gyfres ar y sgrin fach yn gynnar yn 2008.
Daeth yr ŵyl i ben gyda Seremoni Wobrwyo Ffresh, pan gyhoeddwyd enillwyr y gwahanol gategorïau gan y beirniaid (cliciwch yma i weld rhestr enillwyr). Rhannwyd y wobr Ffuglen bwysig rhwng Julie Owen-Moylan am ei ffilm Babycakes a Jie Yuan am A Scoundrel’s Marriage. Aeth Gwobr y Gynulleidfa (wedi'i noddi gan Sequence) i Louise Bartmann, Warda Al-Jawahiry & Sarah Phillips (llun) – tair myfyriwr graddedig o Aberystwyth, am eu ffilm Soho for Women.
Cewch ddarganfod mwy am yr Wyl eleni drwy wylio y casgliad archif o sesiynau ar-alw drwy ymweld a safle we Ffresh!

