Ynglyn a'r Festivals Company
Sefydlwyd y Festivals Company yn 2006. Mae'r cwmni wedi ei leoli yn y brif ddinas ac yn gweithredu'n ddwyieithog gyda tim craidd sy'n ymgorffoi arbennigedd dros pum mlynedd ar hugain. Da ni'n caru Cymru ond da ni hefyd wedi mopio ar y byd mawr tu hwnt i'r hen wlad.
Er ein bod yn dathlu safonau uchel da ni'n gwbwl argyhoeddiedig o beidio siarad lawr a'n cwsmeriaid drwy siarad mewn jargon anealladwy. I'r gwrthwyneb, er mwyn datblygu safon gwaith yn ein maes mae'r cwmni yn benderfynol o rannu ein sgiliau gyda eraill.
Mae'r cwmni'n falch o fod wedi gweithio gyda: Cyngor Prydeinig Cymru, Ffresh Ltd, Plaid Cymru, Media Guardian Edinburgh International Television Festival, Celtic Media Festival, Llywodraeth Cynulliad Cymru, S4C, ITV Wales, TVYP a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ni hefyd yn falch iawn o fod wedi creu: The Iris Prize, y gystadleuaeth i ganfod Ty Bwyta Cyri'r Flwyddyn a Gwyl Fwyd Indiaidd Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau ac i ddarganfod sut y bydd modd i ni eich helpu gyda'ch digwyddiadau ac ymgyrchoedd cofiwch gysylltu am sgwrs anffurfiol - gallwch siarad efo Berwyn ar 029 20232744.
